Gwnaeth Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ddisodli Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. O ganlyniad, nid oes angen i ni gyhoeddi Cynllun Iaith Gymraeg mwyach. Yn hytrach, mae’n rhaid i ni gydymffurfio â chyfres o Safonau Cymraeg cenedlaethol.
Gwnaeth Comisiynydd y Gymraeg gyflwyno hysbysiad i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru i gydymffurfio â’r Safonau, yn ystod haf 2016. Mae disgwyl i ni gydymffurfio â’r rhan fwyaf o’r safonau erbyn 30 Mawrth 2017, gan gyflwyno rhai Safonau erbyn 30 Medi 2017.
Rydym yn cefnogi’r Safonau a’r cyfleoedd sy’n deillio ohonynt i hyrwyddo cynwysoldeb iaith yng Nghymru.
Mae copi o’r hysbysiad cydymffurfio ar gael yma.
Mae gwybodaeth am sut y byddwn yn cydymffurfio â’r Safonau ar gael yma.
Mae gwybodaeth am sut i wneud cwyn mewn perthynas â’n gwasanaeth Cymraeg neu’n cydymffurfiaeth â’r Safonau ar gael yma.
Adroddiadau Blynyddol
Ddydd Iau 14 Medi, aeth Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Heddlu De Cymru, i ddigwyddiad Kaleidoscope i ddynodi'r ffaith bod y gwasanaet…
Gweld mwy >Ddydd Sul, 24 Medi, bydd Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn ymuno â chynulleidfa o 1,000 o bobl yn y New Theatre, Caerdydd ar…
Gweld mwy >Mae Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi cwblhau Taith Gerdded 22 milltir Gŵyr i godi arian fel bod mwy o bobl ifanc yn gallu cymryd r…
Gweld mwy >