Dolenni Defnyddiol
Eich Comisiynydd Ein gwaith Cysylltwch â ni Tryloywder Newyddion Digwyddiadau Cwcis YmwadiadMae'r Comisiynydd yn gofyn i pawb i dilyn gyngor hylendid, cyfyngwch ar eich symudiadau ac os oes gennych reswm da i adael eich cartref, dilynwch ganllawiau cadw pellter cymdeithasol i’r llythyren.
Dywedodd y Comisiynydd:
“Ar hyn o bryd rydym mewn cyfnod ansicr, na welwyd ei fath gyda bygythiad Coronafeirws yn newid ac yn esblygu’n barhaus, ond mae wedi bod yn ysbrydoledig gweld y ffordd y mae cymaint o bobl wedi dangos ymrwymiad ac egni anhygoel wrth gydweithio er mwyn mynd i’r afael â lledaeniad y feirws a diogelu’r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.
Mae'r Comisiynydd hefyd wedi canmol staff y GIG, yr heddlu, gwasanaethau brys eraill a Llywodraeth Leol am "ddangos ymrwymiad ac egni enfawr" wrth ymateb i bandemig y coronafeirws. Ac mae wedi croesawu'r "synnwyr cyffredin ac undod a ddangoswyd gan y mwyafrif llethol o'r cyhoedd yn ne Cymru".
Mae'r Comisiynydd yn gofyn cymunedau i peidiwch â diystyru effaith y camau gweithredu hyn, oherwydd mae anwybyddu cyngor yn rhoi bywydau mewn perygl, ac mae’r ffaith bod yr heddlu wedi cael pwerau gorfodi yn dangos pa mor ddifrifol yw hyn a bod yn rhaid i bawb ddilyn y rheolau sydd wedi cael eu gosod.
A fyddech cystal â gwneud popeth y gallwch i ddiogelu eich hunan a’ch anwyliaid drwy wrando ar y cyngor a’r canllawiau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Heddlu De Cymru a’n partneriaid yn yr awdurdodau lleol.
Mae dwy fenter yn Gwent a De Cymru sy'n helpu menywod a phobl ifanc i dorri'r cylch troseddu a gwella eu bywydau wedi cael canmoliaeth gan y Dirprwy B…
Gweld mwy >“Ers y penwythnos rwyf wedi dod i ddeall yr amgylchiadau fu'n gysylltiedig â marwolaeth Mohamud Hassan yng Nghaerdydd, a phryderon ei deulu sydd wedi …
Gweld mwy >Mae ymchwil newydd gan NYAS Cymru (Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol) a Chymdeithas y Plant yn datgelu bod plentyn yn mynd ar goll yng Nghy…
Gweld mwy >