Dolenni Defnyddiol
Eich Comisiynydd Ein gwaith Cysylltwch â ni Tryloywder Newyddion Digwyddiadau Cwcis YmwadiadErs i ysgolion a lleoliadau addysg gau, mae atgyfeiriadau at wasanaethau cymdeithasol plant wedi gostwng yn sylweddol. Gyda phlant yn aros gartref, mae grŵp cudd o blant yn wynebu risg posibl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso sy'n rhyngweithio llawer llai â'r gwasanaethau statudol.
Mae pandemig COVID-19 wedi newid bywydau pawb – ac mae hyn wedi arwain at faes o bryderon cwbl newydd am blant. Mae'r NSPCC wedi gweld llu o ymholiadau newydd eisoes drwy'r llinell gymorth, sy'n amrywio o bryderon am gam-drin domestig, i rieni sydd angen cymorth ag iechyd meddwl ac ymddygiad eu plant.
Mae gan bob un ohonom rôl i'w chwarae wrth ddiogelu plant sy'n agored i niwed, yn enwedig nawr bod cymaint ohonom yn aros gartref ac yn wynebu risgiau mwy o bosibl.
P'un a ydych yn gymydog neu'n aelod o'r gymuned, mae'n rhaid i ni gyd fod yn fwy gwyliadwrus er lles y plant hyn er mwyn eu cadw'n ddiogel.
Ymhlith arwyddion cyffredin y gallai fod rhywbeth sy'n peri pryder yn digwydd ym mywyd plentyn mae:
Gellir cysylltu â llinell gymorth yr NSPCC 24 awr y dydd dros e-bost:
Neu drwy'r ffurflen adrodd ar-lein:
www.nspcc.org.uk/keeping-children-safe/reporting-abuse/report/
Mae'r llinell gymorth ganlynol ar gael rhwng 8am a 10pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, neu rhwng 9am a 6pm ar y penwythnosau:
0808 800 5000
Diogelwch Ar-lein
Gyda phlant a phobl ifanc gartref o'r ysgol ac yn treulio mwy o amser ar-lein, mae CEOP (gorchymyn Camfanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein) wedi creu deunyddiau newydd i gefnogi rhieni yn ystod COVID-19.
Bob pythefnos, caiff pecynnau gweithgareddau yn y cartref newydd eu rhyddhau i blant rhwng 4 ac 14 oed, gyda gweithgareddau syml 15 munud y gallwch chi eu gwneud gyda'ch plentyn i gefnogi eu diogelwch ar-lein.
www.thinkuknow.co.uk/parents/Support-tools/home-activity-worksheets/
I gael cyngor pellach ar Amddiffyn Plant, ewch i:
Mae dwy fenter yn Gwent a De Cymru sy'n helpu menywod a phobl ifanc i dorri'r cylch troseddu a gwella eu bywydau wedi cael canmoliaeth gan y Dirprwy B…
Gweld mwy >“Ers y penwythnos rwyf wedi dod i ddeall yr amgylchiadau fu'n gysylltiedig â marwolaeth Mohamud Hassan yng Nghaerdydd, a phryderon ei deulu sydd wedi …
Gweld mwy >Mae ymchwil newydd gan NYAS Cymru (Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol) a Chymdeithas y Plant yn datgelu bod plentyn yn mynd ar goll yng Nghy…
Gweld mwy >