Dolenni Defnyddiol
Eich Comisiynydd Ein gwaith Cysylltwch â ni Tryloywder Newyddion Digwyddiadau Cwcis YmwadiadMae ymgysylltu â chymunedau ledled De Cymru yn agwedd bwysig ar rôl y Comisiynydd, gan ei fod yn helpu i roi darlun cyfoethocach o bryderon lleol ac yn galluogi'r Comisiynydd i ymgymryd yn well â'i ddyletswydd i ddal yr heddlu i gyfrif ar ran y cyhoedd.
Drwy gydol y flwyddyn, mae'r Comisiynydd yn cynnal nifer o grwpiau ffocws cymunedol ac ymweliadau, arolygon a digwyddiadau cyhoeddus i sicrhau eich bod yn cael y cyfle i rannu eich barn ar faterion yn ymwneud â'ch plismona lleol.
I gael gwybod mwy am ymrwymiad y Comisiynydd i ddatblygu a chynnal gweithgarwch ymgysylltu â'r cyhoedd, darllenwch ein strategaeth ymgysylltu. Mae ein strategaeth ymgysylltu yn nodi ein hymrwymiad i ymgysylltu'n ystyrlon a'r dulliau y byddwn yn eu rhoi ar waith.
Os hoffech chi gynnwys y Comisiynydd neu ei dîm mewn digwyddiad lleol rydych chi'n ei drefnu, gofynnwch iddo gyfarfod â grŵp cymunedol lleol, neu roi mewnbwn mewn digwyddiad, cysylltwch â ni ar:
Mae dwy fenter yn Gwent a De Cymru sy'n helpu menywod a phobl ifanc i dorri'r cylch troseddu a gwella eu bywydau wedi cael canmoliaeth gan y Dirprwy B…
Gweld mwy >“Ers y penwythnos rwyf wedi dod i ddeall yr amgylchiadau fu'n gysylltiedig â marwolaeth Mohamud Hassan yng Nghaerdydd, a phryderon ei deulu sydd wedi …
Gweld mwy >Mae ymchwil newydd gan NYAS Cymru (Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol) a Chymdeithas y Plant yn datgelu bod plentyn yn mynd ar goll yng Nghy…
Gweld mwy >