Dolenni Defnyddiol
Eich Comisiynydd Ein gwaith Cysylltwch â ni Tryloywder Newyddion Digwyddiadau Cwcis YmwadiadMae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am gynlluniau ymweld a arweinir gan wirfoddolwyr sy'n ceisio rhoi sicrwydd i'n cymunedau ynghylch y modd y mae Heddlu De Cymru yn cyflawni ei waith o ddydd i ddydd mewn dau faes allweddol
Fel rhan o gynllun statudol Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd, mae ymwelwyr yn ymweld â dalfeydd yr heddlu yn ddirybudd, ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos, er mwyn arolygu'r amodau a'r modd y caiff y rhai a gedwir yn y ddalfa eu trin. Gyda thua 30,000 o arestiadau yn arwain at unigolion yn cael eu cadw yn y ddalfa yn Ne Cymru yn 2017-2018, mae'r cynllun yn ffordd o oruchwylio'r gymuned, sy'n hollbwysig, ac mae'n helpu i sicrhau amgylchedd diogel ac i roi tawelwch meddwl i'r cyhoedd.
I gael gwybod mwy am ein cynllun ymweld â dalfeydd cliciwch yma
Y cynllun Ymweliadau Lles Anifeiliaid, sy'n arolygu lles cŵn a cheffylau'r heddlu drwy gynnal ymweliadau wythnosol ag Adran Cŵn a Cheffylau Heddlu De Cymru.
I gael gwybod mwy am ein cynllun lles anifeiliaid cliciwch yma
Mae dwy fenter yn Gwent a De Cymru sy'n helpu menywod a phobl ifanc i dorri'r cylch troseddu a gwella eu bywydau wedi cael canmoliaeth gan y Dirprwy B…
Gweld mwy >“Ers y penwythnos rwyf wedi dod i ddeall yr amgylchiadau fu'n gysylltiedig â marwolaeth Mohamud Hassan yng Nghaerdydd, a phryderon ei deulu sydd wedi …
Gweld mwy >Mae ymchwil newydd gan NYAS Cymru (Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol) a Chymdeithas y Plant yn datgelu bod plentyn yn mynd ar goll yng Nghy…
Gweld mwy >