Amdanom ni
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Y Gwir Anrh Alun Michael Cynllun Heddlu a Throseddu 2022-2026 Tîm y Comisiynydd Gweithio mewn partneriaeth Cyflog Byw Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru Straeon Arweinyddiaeth Fy Mlog Mae Tasglu Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Plismona yng NghymruEr mwyn i drigolion gael cyfle i siarad yn uniongyrchol â'r Comisiynydd a'i dîm, rydym yn trefnu ac yn mynychu amrywiaeth o ddigwyddiadau ymgysylltu i sicrhau bod y Comisiynydd yn weladwy ac yn hygyrch i'r gymuned.
Mae mynychu digwyddiadau cymunedol yn rhoi cyfleoedd gwych i ni hysbysu cymunedau am rôl a gwaith y Comisiynydd, tra hefyd yn annog trigolion i rannu eu hadborth gyda ni. Mae sgyrsiau agored a gonest a gydag unigolion yn ein galluogi i glywed drosof y materion sydd yn poeni cymunedau a'u barn gyffredinol am blismona lleol. Mae hyn yn arbennig o bwysig er mwyn i ni ddeall pryd mae'r gwaith rydym yn ei wneud yn ceisio taclo ac atal troseddu a diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.
Mae'r adborth a gasglwyd o'n holl weithgarwch ymgysylltu hefyd yn helpu i lywio ein gwaith o graffu a goruchwylio Heddlu De Cymru ac yn llywio datblygiad ein gwaith polisi a phrosiect.
Oherwydd Covid-19 nid oeddem yn gallu mynychu unrhyw ddigwyddiadau yn ystod 2020/21, ond edrychwn ymlaen at fynychu digwyddiadau cymunedol eto yn 2022.
Llongyfarchiadau mawr i ddau PCSO o Dde Cymru a oedd ymhlith yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo genedlaethol yr wythnos diwethaf.
Ar noson lwyddiannus …
Gweld mwy >Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Heddlu De Cymru Alun Michael yn ôl i'r ysgol ddydd Llun, 19 Rhagfyr.
Aeth i Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin…
Cynhaliodd Tîm Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru seminar ymwybyddiaeth o stopio a chwilio ddydd Iau, 8 Rhagfyr.
Cynhaliwyd y seminar yn Jers…
Gweld mwy >