Dolenni Defnyddiol
Eich Comisiynydd Ein gwaith Cysylltwch â ni Tryloywder Newyddion Digwyddiadau Cwcis YmwadiadEr mwyn i drigolion gael cyfle i siarad yn uniongyrchol â'r Comisiynydd a'i dîm, rydym yn trefnu ac yn mynychu amrywiaeth o ddigwyddiadau ymgysylltu i sicrhau bod y Comisiynydd yn weladwy ac yn hygyrch i'r gymuned.
Mae mynychu digwyddiadau cymunedol yn rhoi cyfleoedd gwych i ni hysbysu cymunedau am rôl a gwaith y Comisiynydd, tra hefyd yn annog trigolion i rannu eu hadborth gyda ni.
Enghreifftiau o ddigwyddiadau a fynychwyd yn ystod 2019 yw:
![]() |
Diwrnodau hwyl i'r teulu yn Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Rhondda Cynon Taf. Defnyddiwyd y digwyddiadau hyn gennym i ddatblygu ein dealltwriaeth o flaenoriaethau plismona a phryderon diogelwch pobl. |
![]() |
Cardiff Multicultural Mela Roeddem yn falch o noddi a mynychu Mela Amlddiwylliannol Caerdydd, digwyddiad sy'n arddangos amrywiaeth eang o ddiwylliannau, cerddoriaeth, dawns, celfyddydau, ffasiwn a bwyd yn ogystal â pherfformiadau cymunedol. |
![]() |
999 Penwythnos y Gwasanaethau Brys Fe ymunon ni â Heddlu De Cymru, gwasanaeth tân ac Achub De Cymru a thimau ambiwlans Cymru ym Mae Caerdydd, i gael penwythnos llawn hwyl o weithgareddau, arddangosiadau ac arddangosfeydd, gan hyrwyddo gwaith y gwasanaethau brys. |
![]() |
Diwrnod i'r teulu Shirenewton Rhoddodd diwrnod agored i deuluoedd Drenewydd Gelli-farch gyfle inni siarad â'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr am eu hymddiriedaeth a'u hyder yn yr heddlu a'u profiadau o adrodd am drosedd |
![]() |
Adfest Roeddem yn falch o gael ein gwahodd i fynychu ' Adfest ' cyntaf pobl Cymru gyfan, sy'n ddigwyddiad blynyddol i bobl ag anableddau dysgu. Rhoddodd y digwyddiad gyfle i ni siarad â phobl ag anableddau dysgu am rôl y Comisiynydd a'r gwaith rydym yn ei wneud i helpu i atal a lleihau troseddu. |
Roedd y sgyrsiau agored a gonest a gawsom gydag unigolion yn y digwyddiadau hyn yn ein galluogi i glywed drosof fy hun y materion yr oedd ein cymunedau yn eu hwynebu a'u barn gyffredinol am blismona lleol. Mae hyn yn arbennig o bwysig er mwyn i ni ddeall pryd mae'r gwaith rydym yn ei wneud yn ceisio taclo ac atal troseddu a diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.
Mae'r adborth a gasglwyd o'n holl weithgarwch ymgysylltu hefyd yn helpu i lywio ein gwaith o graffu a goruchwylio Heddlu De Cymru ac yn llywio datblygiad ein gwaith polisi a phrosiect.
Mae dwy fenter yn Gwent a De Cymru sy'n helpu menywod a phobl ifanc i dorri'r cylch troseddu a gwella eu bywydau wedi cael canmoliaeth gan y Dirprwy B…
Gweld mwy >“Ers y penwythnos rwyf wedi dod i ddeall yr amgylchiadau fu'n gysylltiedig â marwolaeth Mohamud Hassan yng Nghaerdydd, a phryderon ei deulu sydd wedi …
Gweld mwy >Mae ymchwil newydd gan NYAS Cymru (Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol) a Chymdeithas y Plant yn datgelu bod plentyn yn mynd ar goll yng Nghy…
Gweld mwy >